Newid Bywydau – Creu Dyfodol

Customers on a day tripRydym yn gweithio gyda chleientiaid ledled Cymru i roi’r cymorth wedi’i deilwra y mae ei angen ar unigolion i oresgyn y rhwystrau presennol sy’n eu hatal rhag gweithio. Hyd yma, mae ein tîm, sy’n cynnwys mwy na 150 o arbenigwyr, wedi helpu mwy na 18,000 o gleientiaid i ddod o hyd i waith yng Nghymru drwy ddarparu cymorth cam wrth gam, o hyfforddiant cyn cyflogaeth i gymorth ar ôl cyflogaeth.

 

Sut yr ydym yn gweithio

Trwy weithio’n agos gydag un o’n hymgynghorwyr, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y cyngor, y cymorth a’r hyfforddiant penodol y mae eu hangen arnoch i gyrraedd eich nod yn y farchnad swyddi. O hyfforddiant rhifedd a llythrennedd i brofiad gwaith a help i baratoi CV, byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu’r cyswllt rhyngoch chi a’ch darpar gyflogwr.

 

Gyda phwy yr ydym yn gweithio

Rydym yn gweithio gyda chwmnïau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol i sicrhau eich bod yn cael yr help iawn o ran cyflogaeth a’r cymorth iawn gyda’ch datblygiad personol.

 

Rydym yn gweithio yn y sectorau craidd canlynol:

 

  • Lletygarwch – megis Sieffs, Staff Derbynfa neu Staff Blaen Tŷ
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid – Gweithwyr Canolfannau Galw
  • Manwerthu – Cynorthwywyr neu Reolwyr Gwerthu
  • Diogelwch – Goruchwylwyr Drysau neu Weithredwyr Teledu Cylch Cyfyng
  • Gofal Iechyd – Gweithwyr Gofal

 

Os ydych yn chwilio am waith yng Nghymru ac os hoffech wybod mwy am sut y gall Working Links eich helpu chi, cysylltwch â ni.


Print this page Share on Facebook Email page to a friend Subscribe to our newsletter