Astudiaethau achos

Susan Hallam – Tre-boeth, Abertawe

 

“Mae gennyf gydbwysedd perffaith rhwng gwaith a bywyd yn awr – mae Working Links wedi gwneud y gwahaniaeth.”

 

Ar ôl gweithio yn y diwydiant harddwch am fwy na deng mlynedd ar hugain, gadawodd Susan Hallam, 50, ei gwaith llawn amser yn 2008 oherwydd ei bod yn dioddef o bryder, iselder a phyliau o banig. Dywedodd: “Roeddwn i’n sâl am gyfnod, ond nid oeddwn am gyfaddef hynny wrth fy nheulu. Yna, daeth adeg ychydig cyn y Nadolig y llynedd a digon oedd digon – roeddwn am fynd i’r afael â’r broblem.”

 

Daeth Susan at Working Links yn Abertawe ym mis Ionawr 2009, ac roedd yn awyddus i wybod mwy am y cymorth  oedd ar gael o ran cyflogaeth. Cyfarfu â Keri Harris, Ymgynghorydd Working Links, a’i helpodd ar ei thaith tuag at hunangyflogaeth. Ar ôl cael cymorth mentora ac arweiniad gan Working Links, cyfarfu Susan ag arbenigwyr busnes i’w helpu i sefydlu ei busnes therapi harddwch teithiol newydd er mwyn gwneud y mwyaf o gyfnod y partïon Nadolig.

 

Meddai Susan: “Lansiwyd Beauty Makeovers @ Home ym mis Tachwedd, ac rwyf wedi bod yn brysur iawn ers hynny. Mae bod yn annibynnol yn deimlad gwych ac rwy’n gwybod y caf fy ngwobrwyo os byddaf yn gweithio’n galed. Mae gennyf apwyntiadau ar gyfer partïon Nadolig ac mae gair yn mynd ar led am y gwasanaeth. Flwyddyn yn ôl, ni fyddwn erioed wedi credu y byddwn yn y sefyllfa hon – o ran iechyd ac o ran gwaith.”


Print this page Share on Facebook Email page to a friend Subscribe to our newsletter