Hyfforddiant

a man on the phoneEin nod yn Working Links yw rhoi’r cyfle i bawb gymryd rhan mewn dysgu gydol oes, felly mae ein gwasanaethau hyfforddiant cyflogaeth yn rhan hanfodol o’r hyn yr ydym yn ei gynnig.

 

Hyfforddiant cyn cyflogaeth

Mae’r cyrsiau hyfforddiant cyn cyflogaeth yng Nghymru wedi’u cynllunio i sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau penodol sy’n ofynnol gan gyflogwyr, gan roi nod clir ichi weithio tuag ato a chyfle am swydd ar ddiwedd eich hyfforddiant. Mae pob un o’n cleientiaid yn cael hyfforddiant wedi’i deilwra gan ein tiwtoriaid, er mwyn datblygu sgiliau hanfodol, a chaiff yr hyfforddiant hwnnw ei ddarparu yn unigol neu mewn grwpiau bach. Gall cleientiaid gael cyngor am yrfaoedd yn ogystal â hyfforddiant yn y meysydd canlynol:

 

  • Help wrth chwilio am waith yng Nghymru
  • Help gyda sgiliau llythrennedd, rhifedd ac iaith
  • Hyfforddiant i fagu cymhelliant, hyder a phendantrwydd
  • Help i baratoi CV
  • Help i baratoi ar gyfer cyfweliadau am swyddi
  • Profiad gwaith yn y lleoliad gyda chyflogwyr

 

Cymorth ar ôl cyflogaeth

Mae dod o hyd i waith yn gam pwysig iawn ym mhroses Working Links ond nid dyna ddiwedd y daith. Yn Working Links, rydym yn ceisio cynnal perthynas hirdymor â’n cleientiaid, felly, wedi ichi gael gwaith, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y cymorth y mae ei angen arnoch i barhau i ddatblygu eich sgiliau. Drwy hyfforddiant cyflogaeth un i un a hyfforddiant pellach, gallwn weithio gyda’n gilydd er mwyn ichi allu parhau i adeiladu ar eich sgiliau a symud ymlaen yn eich gyrfa.

 

Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o wybodaeth am ddechrau chwilio am waith yng Nghymru neu os hoffech gael manylion am unrhyw rai o’r gwasanaethau hyfforddiant cyflogaeth sydd ar gael.



Print this page Share on Facebook Email page to a friend Subscribe to our newsletter