Waeth
beth yw eich cefndir, gallwn eich arwain yn ôl i waith drwy ein
rhaglenni amrywiol sy’n cynnig cymorth a hyfforddiant cyn
cyflogaeth. Mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio i’ch helpu i
ddatblygu’r sgiliau penodol y mae eu hangen arnoch er mwyn gallu
dod o hyd i swydd, o gymorth ar y dechrau wrth ichi chwilio
am waith yng Nghymru, i leoliadau yn y gweithle.
Rydym yn arbenigo mewn helpu’n cleientiaid
i ddod o hyd i waith mewn pum maes allweddol, sef
lletygarwch, gwasanaethau cwsmeriaid, manwerthu, diogelwch a
gofal iechyd. Mae nifer o raglenni cymorth a hyfforddiant
cyn cyflogaeth ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, sydd
wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r rhwystrau unigol sy’n atal
cleientiaid rhag dod o hyd i waith a hybu eu twf personol. Dilynwch
y ddolen gyswllt i wybod mwy am y rhaglenni cymorth a
hyfforddiant cyn cyflogaeth sy’n gweithredu yng Nghymru ar
hyn o bryd.
Rhestr lawn o gontractau sy’n gweithredu
ledled Cymru –
- Y Fargen Newydd Hyblyg
- Y Cynllun Paru Swyddi