Cymorth

Two women looking at a bookO’r eiliad y byddwch yn dechrau gweithio gyda ni, byddwch yn cael y cymorth wedi’i deilwra y mae ei angen arnoch er mwyn gallu cyrraedd eich nod, beth bynnag yw eich sefyllfa. Bydd ymgynghorydd yn cael ei benodi ichi a fydd yn rhoi cymorth un i un ichi ac yn gweithio drwy unrhyw rwystrau a allai fod yn eich atal rhag datblygu eich sgiliau a dod o hyd i waith yng Nghymru. Fel rhan o’r hyfforddiant cyflogaeth hwn, sydd wedi’i deilwra, bydd eich ymgynghorydd yn eich cyflwyno i bobl neu sefydliadau eraill a all helpu gydag unrhyw broblemau penodol a allai fod gennych.

 

Bydd eich ymgynghorydd yn gweithio gyda chi, o asesu eich sefyllfa ar y dechrau i ddarparu cymorth mentora hirdymor drwy gydol eich hyfforddiant ac yn eich swydd newydd pan fyddwch wedi dod o hyd i waith. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth sydd wedi’u teilwra i unigolion, megis cymorth gyda chostau cyfweliadau a help gyda threfniadau gofal plant.

 

Mae croeso ichi alw i mewn i’n swyddfeydd neu ein ffonio neu anfon e-bost atom i gael gwybod mwy. Rydym yn cynnig gwasanaeth cwbl gynhwysol ac mae cyfleusterau yn ein swyddfeydd i unrhyw un y mae angen cymorth penodol arno, gan gynnwys cymorth â rhwystrau ieithyddol (mae llawer o aelodau ein tîm yn siarad Cymraeg) a help i gleientiaid sydd ag anabledd.



Print this page Share on Facebook Email page to a friend Subscribe to our newsletter